Handle With Care

Picture courtesy of Robert Cox, Kempston

Mae 100% o'r pris gwerthu yn mynd yn syth i'ch The Casuarina House Utange Orphanage Project, Kenya.

note iconFlower Duet, Lakme
note iconAve Maria, Gounod
note iconFor Unto Us A Child Is Born, Handel
note iconQueen Of The Night, Mozart
note iconThe Way, Clifford Derbyshire

Mae Tim ac Irene Grant-Jones yn byw yn Bedfordshire ac mae ganddynt deulu o bump o blant, rhai ohonynt i'w clywed ar y recordiad hwn. Yn 1987, tra 'roedd hi'n feichiog â Rebecca, bu angen llawdriniaeth ddifrifol ar Irene, a bu rhaid wrth ofal mawr ar y baban yn y groth. Bu hyn yn adeg ofidus iawn i'r teulu i gyd. Rhoddwyd prawf enfawr ar eu ffydd Gristnogol, ond cawsant eu cynnal gan eu ffydd bod Duw yn gofalu am bob manylyn.

Diolch i ddawn y llawfeddyg (Mrs R. M. Wallace) a gofal y Dr Done a'r Dr Au, cafodd Irene adferiad da a ganwyd Rebecca ymhen ychydig fisoedd heb drafferth.

Er mwyn dangos eu diolchgarwch, dechreuodd y teulu eu hymwneud ag ACHUB Y PLANT yn 1987 drwy chwarae cerddoriaeth am oriau hir adeg y Nadolig. Dymunent fynd gam ymhellach a defnyddio eu profiad cerddorol i godi swm cryn dipyn yn uwch i'r elusen hon sy'n canolbwyntio ei hymdrechion, trwy'r byd i gyd, lle mae plant mewn angen na ellir ei ddychmygu. Gweledigaeth Irene fu cynhyrchu'r recordiad hwn a hynny heb unrhyw gost i'r elusen. Cafwyd cryn anogaeth gan y Dr a Mrs Barber oedd yn rhannu'r un weledigaeth. Bu Irene wrthi'n ddiflino yn gohebu a sgwrsio â channoedd o gwmnïoedd ac unigolion ynghylch y cynllun dros gyfnod o ryw 18 mis. Bob yn dipyn daeth yr arian i mewn fel y gallent ddechrau ar y recordio. Mae dyled arbennig i Dave Ledsom (o gwmni adeiladu SDC) a Nick Kier (Clwb Rotari Bedford Park) a benderfynodd roi elw eu hachlysuron elusennol eu hunain i ariannu'r cynllun hwn, gan gyfrannu tua dwy ran o dair o'r gost i gyd.

Mae gan rai o'r eitemau cerddorol gysylltiad uniongyrchol neu gynnil â phlant, neu mae iddynt naws gydymdeimladol. Dewiswyd pob un o'r 18 trac ar sail ei atyniad cerddorol mawr. Ysgrifennwyd tair cân yn arbennig ar gyfer yr albwm hwn, THEY CAN'T WRITE TO TELL US, OUR FATHER a THE WAY.

Cynhwysir y gân werin Gymraeg, BUGEILIO'R GWENITH GWYN, fel teyrnged i'r wlad lle magwyd Irene a lle cafodd gymaint o'i chefndir cerddorol. Tra 'roedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd y Rhyl bu'n ymwneud â Band Arian y Rhyl a Theatr Fach y dref. Hefyd, enillodd yn yr unawd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Bu Flora Nielsen, Clara Taylor a John Carol Case yn ddylanwadau pwysig ar ddatblygiad ei llais yn yr Academi Gerdd Frenhinol lle derbyniodd wobr Parepa Rosa am ganu.

Mae teulu Irene yn hanu o Flaenau Ffestiniog, lle bu ei thad, y ieuengaf o ddeuddeg o blant, yn gweithio yn chwarel Maenofferen Rhieni mam Irene a sefydlodd gyfnewidfa ffôn gyntaf y Blaenau yn eu cartref eu hunain, a thaid ei mam a agorodd y sinemâu cyntaf yno ac yng Nghaergybi. Mae chwaer Irene yn dal i fyw yn y Rhyl ac mae llawer o aelodau eraill o'r teulu yn dal i fyw ym Mlaenau Ffestiniog a mannau eraill yng Ngogledd Cymru.

Mae pob un o'r datgeiniaid wedi rhoi oriau hir yn y stiwdio yn rhad ac am ddim. Mae nifer fawr o fusnesau wedi rhoi eu gwasanaeth a'u cyngor arbenigol bob cam o'r ffordd. Codwyd holl gostau cynhyrchu'r CD a'r casét trwy nawdd a thrwy roddion o arian ac anrhegion eraill gan nifer fawr o fusnesau ac unigolion. Fe aiff y cyfan o arian y gwerthiant i'ch dewis elusen.

Recordiwyd yn The Basement Studio, Bedford
Peiriannydd Recordio: Rick Cordes
Dylunydd y clawr: Robert Cox
Ffotograffydd y clawr Ivor Leonard
Cynhyrchwyr: Tim ac Irene Grant-Jones

CDs £8.50. Caset £5.50.

Os gwelwch yn dda, amgaewch 4 stamp dosbarth cyntaf ar gyfer pacio a phostio. Mae 100% o'r pris gwerthu yn mynd yn syth i'ch The Casuarina House Utange Orphanage Project, Kenya (UK Registered Charity No. 1061603). .

Anfonwch sieciau, os gwelwch yn dda, i: 35 Church Walk, Kempston, Bedford, MK427BH

Cheques made payable to: The Sure Foundation